Mae sefydliadau 天美传媒 yn cael eu gwahodd i wneud cais am gyllid i helpu pobl leol i ennill sgiliau mewn meysydd digidol a chreadigol, i'w helpu i symud yn agosach at y farchnad swyddi wrth i'r diwydiant ddatblygu.
Mae'r cyngor yn arbennig o awyddus i ariannu prosiectau a all ddangos gweithgaredd yn y meysydd cyflogaeth a sgiliau hyn ar 么l i fylchau gael eu nodi'n lleol.
Mae hyn yn cael ei ariannu trwy grant Blaenoriaeth 2 Cronfa Twf Lleol gan Lywodraeth y DU, sy'n anelu at helpu pobl i feithrin sgiliau, cael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ystyrlon a chyfrannu at econom茂au a chymunedau lleol cryfach.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Economi a Lleoedd, y Cynghorydd John Morgan:
鈥淢ae鈥檙 cyllid hwn wedi鈥檌 gynllunio i gefnogi prosiectau sy鈥檔 helpu pobl i ennill y sgiliau, yr hyder a鈥檙 cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i symud i mewn i waith a datblygu yn eu gyrfaoedd ac mae鈥檔 ategu llawer o鈥檙 gwaith rydym yn ei wneud gyda phartneriaid lleol trwy ein rhaglenni cyflogadwyedd.
鈥淩ydym hefyd yn datblygu Glasbrint cyffrous ar gyfer Twf, 鈥Ffynnu Gyda鈥檔 Gilydd鈥 gyda鈥檔 partneriaid ffederal Cyngor Torfaen. Bydd hyn yn nodi sut rydym yn bwriadu gweithio ar draws y rhanbarth i gefnogi twf economaidd, sy鈥檔 gynhwysol ac yn gynaliadwy a fydd o fudd i gymunedau, yn helpu i fynd i鈥檙 afael ag anghydraddoldeb ac yn darparu mwy o gyfleoedd i drigolion yn y dyfodol.
鈥淎r gyfer y gronfa hon, rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan sefydliadau sydd 芒 syniadau sy'n ymateb i fylchau sgiliau lleol mewn digidol a chreadigol ac yn cefnogi twf economaidd cynhwysol.鈥
Mae Llywodraeth y DU wedi gosod dau ganlyniad strategol ar gyfer y Gronfa Twf Lleol ar draws y DU: cynyddu Incwm Gwario Real Aelwydydd (RHDI) y pen a chynyddu Cynnyrch Domestig Gros (CDG) y pen.
Mae Cymru wedi nodi pedwar sector twf uchel, Gweithgynhyrchu Uwch, Ynni Gl芒n, Digidol a Thechnolegau, a Chreadigol, ochr yn ochr 芒 dau sector 芒 photensial twf cryf: Gwyddorau Bywyd a Gwasanaethau Ariannol.
Amcanion Blaenoriaeth 2
- Amcan 2.1: Cefnogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch economaidd, gyda ffocws penodol ar bobl ifanc, pobl anabl, menywod a phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.
- Amcan 2.2: Cryfhau sgiliau'r gweithlu drwy addysg a hyfforddiant hyblyg, sy'n cael eu harwain gan y galw, sy'n cyd-fynd ag anghenion sectorau twf uchel a sectorau pwysig yn rhanbarthol.
Mae'r Gronfa Twf Lleol yn cynnwys cyllid cyfalaf a refeniw i gefnogi gweithgarwch sy'n rhoi hwb i (GDP) ac (RHDI), gan helpu i adeiladu econom茂au lleol cryfach a gwella safonau byw.
Anogir sefydliadau sydd 芒 diddordeb mewn gwneud cais i adolygu'r canllawiau ymgeisio a chyflwyno eu ffurflen gais wedi'i chwblhau erbyn y dyddiad cau.
Am ragor o wybodaeth neu i drafod cais posibl, cysylltwch 芒: LocalGrowthFund@blaenau-gwent.gov.uk
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Dylid cyflwyno pob cais i: LocalGrowthFund@blaenau-gwent.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5yp ar 26 Mehefin 2026.