Cyngor i fusnesau
Mae Ardrethi Busnes yn fath o drethiant lleol sy’n daladwy gan feddianwyr neu berchnogion eiddo masnachol tebyg i siopau, swyddfeydd, tafarndai, warysau a ffatrïoedd.
Cânt eu casglu gan y Cyngor ar ran Llywodraeth Cymru. Caiff yr arian a gesglir eu talu i ‘gronfa’ ganolog ac yna eu hailddosbarthu ar draws Cymru i helpu talu am wasanaethau a ddarperir gan yr holl awdurdodau lleol.
Mae buddiannau masnachol eraill y mae Ardrethi Busnes yn daladwy amdanynt tebyg i fastiau telathrebu, hawliau hysbysebu, peiriannau arian a meysydd parcio ac yn y blaen.
Beth yw’r Lluosydd Ardrethi Annomestig Cenedlaethol?
O 1 Ebrill 2026, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun tri lluosydd a all fod yn gymwys i eiddo yng Nghymru. Mae'r lluosyddion hyn fel a ganlyn:
- o 0.350 ar gyfer siopau manwerthu bach a chanolig â gwerth ardrethol is na £51,000;
- o 0.502, sy'n berthnasol i'r mwyafrif o eiddo eraill; a
- o 0.515, sy'n berthnasol i eiddo â gwerth ardrethol uwch na £100,000.
Sut y caiff fy ardrethi busnes eu cyfrif?
Caiff ardrethi busnes eu cyfrif drwy gymryd Gwerth Ardrethol (RV) eich eiddo a’i luosi gan y ‘lluosydd’ ardrethi annomestig cyfredol (neu ‘buntdal’).
Er enghraifft:
Gwerth ardrethol £20,000 x Lluosydd 0.502 = Bil ardrethi blynyddol £10,040
Atebolrwydd gros yw hyn, a gallech fod â hawl i Ryddhad Ardrethi.