Ailbrisio 2026
Caiff yr holl werthoedd ardrethol eu hailasesu mewn ailbrisiad cyffredinol er mwyn sicrhau bod yr ardrethi a delir gan unrhyw un trethdalwr yn adlewyrchu newidiadau dros amser yng ngwerth ei eiddo o gymharu ag eraill. Mae hyn yn helpu i gadw鈥檙 system ardrethu yn deg drwy ddiweddaru prisiadau yn unol 芒 newidiadau yn y farchnad. Cafodd y rhestr ardrethu bresennol effaith ar 1 Ebrill 2026 ac mae鈥檔 seiliedig ar werthoedd fel yr oeddent ar 1 Ebrill 2024. Yn y flwyddyn y mae ailbrisiad yn cael effaith, ailbennir sylfaen y lluosydd er mwyn cymryd i ystyriaeth newidiadau cyffredinol i gyfanswm y gwerth ardrethol ac i sicrhau nad yw鈥檙 ailbrisiad yn codi arian ychwanegol.
Sut i apelio yn erbyn eich gwerth ardrethol
Dylid cyflwyno apeliadau yn erbyn gwerthoedd ardrethol i Asiantaeth y Swyddfa Brisio: .
Pan fyddwch yn cysylltu 芒 nhw bydd angen i chi nodi'r rhesymau pam nad yw'ch gwerth ardrethol yn gywir yn eich tyb chi.
Byddant yn cymharu eich gwerth ardrethol ag eiddo tebyg yn yr ardal ac yn ystyried unrhyw resymau eraill rydych wedi'u nodi wrth iddynt wirio'ch gwerth ardrethol.
Os nad ydych chi'n cytuno 芒 chanlyniad y drafodaeth, gallwch apelio yn erbyn y gwerth ardrethol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am apelio yn erbyn eich gwerth ardrethol ar wefan .
Cymorth Pontio
Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2025 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhyddhad trosiannol i fusnesau y mae鈥檙 ailbrisio hereditamentau annomestig sy鈥檔 cael effaith o 1 Ebrill 2026 yn cael effaith andwyol arnynt. Mae manylion llawn gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd, yr eithriadau, y gofynion gweithdrefnol a鈥檙 rhyddhadau ardrethi perthnasol ar gael gan
Sut i wneud cais
Os ydych yn cymhwyso, caiff rhyddhad ardrethi trosiannol ei osod yn awtomatig i鈥檆h bil fel nad yw鈥檔 rhaid i chi wneud cais amdano.