GORCHYMYN TRAFFIG YN CYFLWYNO GWAHARDDIAD DROS DRO RHAG GYRRU, AROS A LLWYTHO, DYDD SUL, 7 MEDI 2025
Ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol ÌìÃÀ´«Ã½, rwy’n rhoi hysbysiad o dan adran 16A o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 o’r achosion canlynol o gau ffyrdd a gwahardd parcio dros dro o dan orchmynion rheoleiddio traffig:
GWAHARDD GYRRU (CAU FFYRDD AR SAIL DREIGL)
Ni chaiff neb beri i unrhyw gerbyd fynd ar hyd y darnau canlynol o ffyrdd ar yr amseroedd a bennir isod:
Rhannau o ffyrdd sirol yr effeithir arnynt yng ÌìÃÀ´«Ã½ |
|
|
Ffordd |
Disgrifiad |
Amser bras |
A467 |
O ffin y sir yn Llanhiledd i’r gylchfan wrth gyffordd yr A4046/B4471 |
12:24 – 12:44 |
A4046 |
O gylchfan yr A4046/B4471 i’r gylchfan wrth gyffordd Pwll Glo Marine |
12:28 – 12:47 |
A4046 |
O Gylchfan yr Ŵyl ar hyd Teras y Rheilffordd a Heol yr Orsaf i’r gylchfan wrth gyffordd yr A4281 Heol y Gwaith Dur |
12:33 – 12:52 |
A4281 |
O’r A4046 Cylchfan yr Ŵyl ar hyd yr A4281 i’r gylchfan wrth gyffordd Lôn Strand Annealing |
12:38 – 12:53 |
A4281 |
O’r gylchfan wrth gyffordd yr A4281 Lôn Strand Annealing i’r gylchfan wrth gyffordd Rhodfa Calch |
12:41 – 13:02 |
A4281 |
O’r gylchfan wrth gyffordd yr A4281 Rhodfa Calch ar hyd Heol y Fynwent i’r gylchfan wrth gyffordd Heol y Coleg |
12:42 – 13:02 |
A4046 |
O’r gylchfan wrth gyffordd yr A4281 Heol y Coleg ar hyd yr A4046 Heol Waun-y-pownd i’r gylchfan wrth gyffordd Heol Bryn Serth |
12:42 – 13:02 |
A4047 |
O’r gylchfan wrth gyffordd yr A4281 Heol Bryn Serth ar hyd yr A4047 Heol Cendl i’r gylchfan wrth gyffordd yr A4048 |
12:43 – 13:03 |
A4048 |
O’r gylchfan wrth gyffordd yr A4047 i gylchfan y B4256 Y Promenâd |
12:44 – 13:05 |
A4048 |
O gylchfan Y Promenâd ar hyd yr A4048 i’r gylchfan wrth gyffordd y B4256 |
12:47 – 13:08 |
A4048 |
O’r gylchfan wrth gyffordd yr A4048/B4256 i gylchfan Heathfield |
12:48 – 13:08 |
A4048 |
O gylchfan Heathfield ar hyd yr A4048 Heol Newydd / Heol Casnewydd i ffin y sir |
12:51 – 13:12 |
Mynydd Bedwellte |
O ffin Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Abertyswg i’w chyffordd â’r B4256 / Park Hill |
13:07 – 13:35 |
B4256 |
O’i chyffordd â Heol Mynydd Bedwellte i ffin y sir |
13:13 – 13:40 |
GWAHARDD AROS A LLWYTHO
Ni chaiff neb beri i unrhyw gerbyd aros na llwytho ar y darnau canlynol o ffyrdd rhwng 10:00 dydd ac 14:00 pm:
Ffordd |
Disgrifiad o’r lleoliad |
Hyd bras (km) |
A4047 |
Heol Cendl, Tredegar, ar y ddwy ochr, o’i chyffordd â chylchfan yr A4046 tuag at y gorllewin yn gyffredinol i’w chyffordd â chylchfan yr A4048 |
2 |
TERFYNAU CYFLYMDER
Mae pob darpariaeth sy’n ymwneud â therfynau cyflymder naill ai trwy orchymyn neu yn rhinwedd goleuadau stryd (ffyrdd cyfyngedig) wedi’u hatal drwy hyn ar y ffyrdd a bennir uchod i’r graddau y maent yn ymwneud ag unrhyw gerbyd a ddefnyddir ar y cyd â’r digwyddiad ac am hyd y digwyddiad.
RHESWM
Er mwyn hwyluso ras feicio Taith Prydain fel ‘digwyddiad arbennig’ ar y briffordd.
GWYBODAETH
Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy British Cycling events@britishcycling.org.uk
Dyddiedig 28 Awst 2025
Clive Rogers, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN