天美传媒

Prydau Ysgol am Ddim

Prydau Ysgol am Ddim i Bawb

Mae gan bob disgybl ysgol gynradd o鈥檙 Dosbarth Derbyn lan (a phlant Meithrin llawn-amser) ym Mlaenau Gwent yn awr hawl i Bryd Ysgol am Ddim bob dydd.

Caiff hyn ei ariannu gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i鈥檙 pwysau costau byw cynyddol ar deuluoedd ac uchelgais i drin tlodi tanwydd a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd yn newynnog yn yr ysgol. Mae hefyd fuddion ehangach i brydau ysgol am ddim, yn cynnwys hyrwyddo bwyta iach ar draws yr ysgol, cynyddu amrywiaeth y bwyd y gall dysgwyr ei fwyta, gwella sgiliau cymdeithasol adeg prydau bwyd, yn ogystal 芒 gwella ymddygiad a chyrhaeddiad. Mae鈥檙 polisi yn rhan o鈥檙 Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Nid oes angen cofrestru. Y cyfan fydd angen i鈥檆h plentyn ei wneud yw dweud os yw eisiau cinio ysgol pan fydd yn cofrestru ar ddechrau鈥檙 diwrnod ysgol.

Cyfnod Allweddol 2- Cyfnod Allweddol 4:

Efallai y gall eich plentyn gael prydau ysgol am ddim os ydych yn derbyn unrhyw un o鈥檙 dilynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Cymorth yn gysylltiedig ag incwm
  • Cymorth dan Ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Elfen gwarant Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol (cyn belled 芒 bod incwm net blynyddol yr aelwyd yn llai na 拢7,400, heb gynnwys budd-daliadau)

        

Gallwch ddarllen mwy am brydau ysgol am ddim ar .

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n meddwl y gallech fod 芒 hawl i gael cinio ysgol am ddim i'ch plentyn, cwblhewch ffurflen gais ar-lein isod. Hyd yn oed os yw'ch plentyn eisoes yn derbyn prydau ysgol am ddim wrth gyflwyno Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd.

Beth sy鈥檔 digwydd nesaf

Byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn gadael i鈥檙 ysgol wybod pan mae eich plentyn yn gymwys am brydau ysgol am ddim.


Gwybodaeth Cyswllt

Enw鈥檙 T卯m: Budd-daliadau

E-bost: benefits@blaenau-gwent.gov.uk neu ff么n 01495 311556