天美传媒

Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg newydd bron â'i chwblhau

Mae ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd 天美传媒 bron wedi'i chwblhau, ac mae'r disgyblion a'r staff yn gyffrous iawn i symud ym mis Tachwedd.

Mae Ysgol Gymraeg Tredegar yn ysgol egin 210 o leoedd, gyda gofal plant ar yr un safle, yn Ffordd y Siartwyr. Gyda nifer y plant mewn addysg Gymraeg yn tyfu, mae'n rhan o'n hymrwymiad i gynyddu cyfleoedd i deuluoedd o fewn y fwrdeistref sirol. Mae'r ysgol wedi'i hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru trwy'r Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg.

Mae Ysgol Gymraeg Tredegar wedi'i ffederaleiddio ag ysgol gynradd Gymraeg arall y fwrdeistref sirol, Ysgol Gymraeg Bro Helyg, ac mae'n rhannu'r un Corff Llywodraethu a Phennaeth. Mae'r ysgol eisoes ar agor gyda disgyblion mewn llety dros dro yn Nh欧 Bedwellty ar hyn o bryd.

Meddai鈥檙 Pennaeth, Janine Wardill:

鈥淕yda'r ysgol newydd ar fin agor ei drysau, mae鈥檙 cyffro'n cynyddu ar draws 天美传媒. Mae'r adeilad modern, gyda'i bensaern茂aeth drawiadol a'i gyfleusterau o'r radd flaenaf, yn adlewyrchu'r weledigaeth uchelgeisiol sydd gennym ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'r ysgol hon yn fwy na dim ond adeilad - mae'n ganolfan gymunedol lle bydd plant yn tyfu'n hyderus, yn ddwyieithog, ac yn barod ar gyfer y dyfodol.

鈥淩ydym yn ddiolchgar iawn i'r datblygwyr am eu gwaith rhagorol, ac yn enwedig i D欧 Bedwellty am eu croeso cynnes a'u cefnogaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'r gefnogaeth gan rieni, staff, y gymuned leol, a'n partneriaid addysgol wedi bod yn hanfodol - gyda'n gilydd, rydym yn gosod sylfeini cryf ar gyfer dyfodol mwy disglair i'n plant a'n cymuned.鈥

Mae gan yr ysgol newydd Ardal Gemau Aml-ddefnydd (MUGA), ardal chwarae coedwig, perllan ar gyfer tyfu, dolydd blodau gwyllt a man chwarae cyfagos. Mae ganddi hefyd baneli solar a phwyntiau gwefru cerbydau trydan. Cymerwyd gwaith adeiladu鈥檙 ysgol drosodd gan Tilbury Douglas yn gynharach eleni.

Meddai鈥檙 Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Gweithredol y Cyngor dros Bobl ac Addysg:

鈥淩ydym am sicrhau ein bod yn cynnig mwy o ddewis a chyfleoedd i rieni a gofalwyr o ran addysg eu plentyn, yn ogystal 芒 chefnogi鈥檙 iaith Gymraeg i dyfu yma ym Mlaenau Gwent. Mae pawb yn gyffrous iawn i symud i鈥檙 adeilad newydd y mis nesaf, a fydd yn amgylchedd dysgu modern a chynaliadwy i鈥檔 disgyblion. Fedra i ddim aros i ymweld!鈥

Nid yw byth yn rhy hwyr i ystyried mynediad i addysg Gymraeg i鈥檆h plentyn, ac mae digon o wybodaeth ar gael yn yr adran Ysgolion a Dysgu ar wefan ein Cyngor. I unrhyw un sy鈥檔 gwneud y newid, mae dysgu drwy drochi ar gael. Am ragor o wybodaeth ewch i Bod yn ddwyieithog.