Mae Cyngor 天美传媒 wedi cymeradwyo ei gyllideb sy'n parhau i ddiogelu gwasanaethau allweddol, cefnogi trigolion agored i niwed, ac yn cadw'r cynnydd yn y Dreth Gyngor mor isel 芒 phosibl ar 3.75%.
Gyda gwaith adeiladol rhwng aelodau'r grwpiau Llafur ac Annibynnol, mae'r cynnydd yn y Dreth Gyngor yn is nag a gynlluniwyd yn wreiddiol, gan ddangos ymrwymiad a rennir gan arweinwyr gwleidyddol i leihau'r effaith ar aelwydydd ym Mlaenau Gwent. Mae setliad cyllido gwell gan Lywodraeth Cymru, ynghyd ag amrywiaeth o effeithlonrwydd, yn golygu bod y gyllideb yn parhau i warchod a buddsoddi yn y gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl leol. Bydd y gyllideb refeniw, ochr yn ochr 芒'r rhaglen gyfalaf, yn darparu mwy o fuddsoddiad ar gyfer ysgolion, gwasanaethau amgylcheddol, a phriffyrdd, gan gynnal cefnogaeth i'r rhai mwyaf agored i niwed yn y gymuned.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Steve Thomas:
鈥淩wy鈥檔 falch bod y Cyngor Llawn wedi cymeradwyo cyllideb deg a chyfrifol sy鈥檔 gwarchod gwasanaethau allweddol ac yn adlewyrchu鈥檙 hyn a ddywedodd trigolion wrthym oedd yn bwysig.
鈥淢ae鈥檙 cynnydd o 3.75% yn y Dreth Gyngor yn sylweddol is na鈥檔 rhagdybiaeth gynllunio ac mae鈥檔 debygol o fod yn un o鈥檙 cynnydd isaf yng Nghymru. Mae wedi鈥檌 gyflawni trwy gyllid gwell, rheolaeth ariannol ofalus, ac ymrwymiad i gadw unrhyw gynnydd mor isel 芒 phosibl mewn hinsawdd heriol iawn.鈥
Dywedodd Arweinydd y Gr诺p Annibynnol, y Cynghorydd Wayne Hodgins:
鈥淢ae'r gyllideb hon yn dangos beth y gellir ei gyflawni trwy gydweithredu gwirioneddol, a rhoi pobl o flaen gwleidyddiaeth. Mae鈥檙 gyllideb yn cynnal y gwasanaethau y mae trigolion yn dibynnu arnynt fwyaf, yn cynyddu buddsoddiad mewn ysgolion a phriffyrdd, ac yn darparu cefnogaeth ystyrlon i鈥檙 rhai sy鈥檔 wynebu caledi ariannol drwy鈥檙 Cynllun Gostyngiadau鈥檙 Dreth Gyngor.鈥
Mae uchafbwyntiau'r gyllideb yn cynnwys:
- Diogelu gwasanaethau rheng flaen, heb unrhyw doriadau i wasanaethau
- 拢3 miliwn mewn effeithlonrwydd a gyflawnwyd drwy'r rhaglen Pontio'r Bwlch a chydweithio 芒 Chyngor Torfaen
- Cynnydd o 10% mewn cyllid ysgolion
- 拢11 miliwn wedi'i ddyrannu ar gyfer y Cynllun Gostyngiadau y Dreth Gyngor i gefnogi'r aelwydydd mwyaf mewn angen
- Cynnydd yn y Dreth Gyngor sy'n cyfateb i 97c yr wythnos ar gyfer eiddo Band A a 拢1.13 yr wythnos ar gyfer Band B - y bandiau eiddo mwyaf cyffredin yn y fwrdeistref
Gweld sut mae mwyafrif y Gyllideb yn cael ei buddsoddi:

I weld yr adroddiad i鈥檙 Cyngor Llawn cliciwch