Mae Cartref Gofal Cwrt Mytton, Abertyleri, wedi cyflawni sg么r 'Da' yn dilyn arolygiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Mae cartrefi gofal yn cael eu hasesu ar draws pedwar maes allweddol:
- Lles
- Gofal a Chymorth
- Yr Amgylchedd
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Mae Cartref Gofal Cwrt Mytton yn cael ei redeg gan Gyngor 天美传媒 ac mae'n darparu llety a chefnogaeth i hyd at 28 o oedolion h欧n.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at safonau gofal cyson uchel y cartref, lle mae preswylwyr yn mwynhau urddas, parch, dewis, a chyfleoedd ar gyfer gweithgareddau ystyrlon. Mae'r amgylchedd yn groesawgar, gan gynnig ystafelloedd preifat, mannau cymunedol, ac ardaloedd awyr agored i breswylwyr eu mwynhau.
Canmolwyd yr arweinyddiaeth a鈥檙 rheolaeth gref hefyd, gyda systemau sicrhau ansawdd ac adborth effeithiol yn gyrru gwelliant parhaus.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, yr Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau yn y Cyngor:
"Rwy'n croesawu'r adroddiad arolygu diweddaraf hwn, sy'n dyst i'r t卯m cyfan y tu 么l i Cwrt Mytton. Fel ein hunig gartref gofal sy'n cael ei redeg gan yr awdurdod lleol, rydyn ni鈥檔 ymroddedig i sicrhau safonau uchel a diwylliant cadarnhaol o ofal a chymorth. Mae'r gymuned yng Nghwrt Mytton, sydd wedi'i hadeiladu gan staff, trigolion a'u teuluoedd, yn wirioneddol arbennig ac yn un rydyn ni鈥檔 falch iawn ohoni."
