Mae gan Abertyleri ffordd newydd o archwilio ei gorffennol balch! Helpodd disgyblion o Gampws Dysgu 3-16 Abertyleri i lansio llwybr hanes digidol cyffrous yr wythnos hon, gan wahodd pobl leol ac ymwelwyr i ddarganfod y straeon y tu 么l i dirnodau'r dref.
Wedi'i gomisiynu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol 天美传媒 a'i ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae'r llwybr yn defnyddio'r platfform History Points i arwain cerddwyr ar lwybr cylchol sy'n cynnwys 10 safle diddorol - o adeiladau hanesyddol i weithiau celf trawiadol.
Ar hyd y ffordd, datgelodd y disgyblion ffeithiau annisgwyl, fel bywyd blaenorol llyfrgell y dref fel Capel Methodistiaid Calfinaidd y Drindod, lle gosodwyd y garreg sylfaen ym 1877 gan Jane Jones 鈥 un o drigolion cynharaf Abertyleri a menyw fusnes arloesol.
Roedd y disgyblion wrth eu bodd 芒'r profiad:
鈥Roeddwn i'n hoffi'r holl gelf yn y twnnel.鈥 鈥 Ruby
鈥Roeddwn i'n hoffi chwilio am y codau QR.鈥 鈥 Megan
鈥Roeddwn i'n hoffi dysgu am bob adeilad.鈥 鈥 Livia
Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros yr Economi a Lleoedd:
鈥淢ae Abertyleri yn adnabyddus am ei threftadaeth gloddio, ond mae ei hanes hefyd yn llawn straeon ysbrydoledig - pobl a ymladdodd dros hawliau gweithwyr, gofal iechyd gwell, a鈥檙 bleidlais. Menywod cryf fel Beatrice Green, Thora Silverthorn, a Jane Jones a luniodd y dref hon pan oedd gwleidyddiaeth a busnes yn cael eu dominyddu gan ddynion. Gobeithiwn y bydd y llwybr hwn yn ennyn chwilfrydedd a balchder yn ein cymuned.鈥
Mae鈥檙 llwybr newydd yn rhan o ymdrech ehangach i ddenu ymwelwyr a rhoi hwb i ganol trefi, gyda llwybrau tebyg ar gael nawr yng Nglynebwy a mwy yn dod yn fuan.
Yn barod i archwilio? Gafaelwch yn eich ff么n, sganiwch y codau QR, a chymerwch daith gerdded drwy hanes!


