
Cynhaliodd Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent ddathliad ar gyfer gwaith celf cyfrwng cymysg trawiadol newydd sy鈥檔 dathlu bioamrywiaeth anhygoel ein rhanbarth.
Mae鈥檙 BioTapestri yn greadigaeth uchelgeisiol 70 metr o hyd, a gr毛wyd gan grwpiau cymunedol o bob un o鈥檙 pum awdurdod lleol yng Ngwent. Nid tapestri traddodiadol mohono o gwbl. Mae鈥檔 gampwaith cyfrwng cymysg gwych sy鈥檔 llawn lliw, gwead a bywyd, ac mae鈥檔 dal y cynefinoedd a鈥檙 rhywogaethau sy鈥檔 gwneud Gwent yn wirioneddol unigryw.
Ar draws 20 o baneli trawiadol, pedwar o bob awdurdod lleol, mae鈥檙 BioTapestri yn ein tywys ar daith trwy dirweddau coetir, dyfrol, glaswelltir a threfol. Mae pob panel yn rhoi llwyfan i rywogaethau eiconig gan gynnwys eogiaid, y gylfinbraff, draenogod, pili-pala brith y gors, a chimychiaid crafanc gwyn, yn ogystal 芒 nifer o rai eraill.
Gyda鈥檌 gilydd, mae鈥檙 paneli hyn yn plethu stori bwerus am amrywiaeth ecosystemau Gwent a鈥檜 pwysigrwydd 鈥 a鈥檙 cymunedau sy鈥檔 poeni鈥檔 angerddol am eu gwarchod.

Cyfrannodd dros 150 o bobl o Flaenau Gwent at y BioTapestri yn ystod sesiynau allgymorth dan arweiniad BG Arts. Gwnaeth cyfranogwyr o bob oed gyfraniadau creadigol yn amrywio o ddisgyblion ysgol, teuluoedd, pobl ifanc a grwpiau crefft lleol.
I ddathlu鈥檙 BioTapestri a鈥檙 bobl y tu 么l iddo, cynhaliodd Grid Gwyrdd Gwent ddigwyddiad arbennig yng Nglan yr Afon ddydd Gwener 6 Mawrth. Daeth y digwyddiad ag artistiaid, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol ynghyd a oedd wedi rhoi o鈥檜 hamser a鈥檜 creadigrwydd i roi anadl einioes i鈥檙 gwaith celf.
Y cyflwynydd teledu bywyd gwyllt Dr Rhys Jones oedd y siaradwr gwadd yn y digwyddiad a thynnwyd lluniau o鈥檙 holl gyfranogwyr gyda鈥檜 panel.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Catrin Maby, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a鈥檙 Amgylchedd: 鈥淢ae鈥檙 gwaith celf gwych hwn yn dyst i waith caled, sgiliau, gwaith t卯m a brwdfrydedd y rheiny a fu鈥檔 ei greu.
鈥淢ae鈥檔 gynrychiolaeth drawiadol o鈥檔 byd naturiol, ac yn helpu i dynnu sylw at bwysigrwydd ei amddiffyn cystal ag y gallwn.鈥
Dywedodd aelod o'r Gr诺p Celf Inside Out sy'n cyfarfod yn Llyfrgell Tredegar: "Mae wedi bod yn wych cael fy nghynnwys mewn prosiect eang yng Ngwent. Mae wedi dod 芒 gwahanol aelodau o'r gymuned at ei gilydd ac wedi tynnu sylw at harddwch natur ar garreg ein drws鈥
Mae鈥檙 prosiect wedi cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru drwy鈥檙 Rhaglen Rhwydweithiau Natur, a鈥檌 gefnogi gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

