Wrth i noson T芒n Gwyllt brysur agos谩u, mae Cyngor 天美传媒 yn gofyn i drefnwyr arddangosfeydd t芒n gwyllt gofrestru eu digwyddiad gyda'n t卯m Iechyd yr Amgylchedd.
Mae'r cynllun am ddim hwn yn cwmpasu digwyddiadau sydd wedi鈥檜 trefnu o bob maint ac fe'i cr毛wyd i helpu a sicrhau bod pawb yn cael digwyddiad t芒n gwyllt hapus, heb ddamweiniau. Bob blwyddyn ar draws y DU mae damweiniau y gellid bod wedi'u hosgoi'n hawdd yn digwydd yn ystod digwyddiadau t芒n gwyllt, ac mae'r rhain yn aml yn arwain at anaf difrifol.
Bydd swyddogion o'r Cyngor yn cynnig canllawiau cyn y digwyddiad i'r rhai sy'n cynllunio ac yn cynnal arddangosfeydd o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol 天美传媒 a gallant ymweld cyn ac yn ystod y digwyddiad os oes angen.
Dywedodd Tommy Smith, Aelod Cabinet dros Gymdogaethau a Gwasanaethau Amgylcheddol:
鈥淕all t芒n gwyllt fod yn hynod beryglus os na ch芒nt eu rheoli鈥檔 ofalus a gallant fod yn beryglus i bobl sy鈥檔 sefyll o gwmpas a phobl sy鈥檔 eu cynnau. Gwyddom i gyd pa mor swnllyd y gall t芒n gwyllt fod, yn enwedig y rhai sydd mewn digwyddiadau heb eu cynllunio mewn ardaloedd adeiledig a all fod yn ofidus i lawer o bobl ac anifeiliaid anwes hefyd.
Mae ein staff iechyd yr amgylchedd wedi鈥檜 hyfforddi i gynorthwyo trefnwyr arddangosfeydd t芒n gwyllt a gallant gynnig cyngor i drefnwyr digwyddiadau t芒n gwyllt yn y cyfnod cyn yr arddangosfa a gallant ymweld ar y noson ei hun. I wneud hyn mae angen i ni fod yn ymwybodol bod digwyddiad yn digwydd felly cysylltwch 芒 ni i gofrestru eich digwyddiad t芒n gwyllt.鈥
Am ragor o wybodaeth am y cynllun cofrestru cysylltwch 芒 ni ar:
Rhif ff么n: 01495 369542.
Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk
Gwefan: Diogelwch T芒n Gwyllt | CBS 天美传媒 (blaenau-gwent.gov.uk)